Twyll microsglodion ar gyfer anifeiliaid anwes
Hoffai Uned Trwyddedi Anifeiliaid Cymru rybuddio bridwyr a chwsmeriaid i wirio eu bod yn delio gyda chwmni microsglodyn cyfreithlon ac awdurdodedig pan eu bod yn chwilio amdanynt ar-lein.
Rydym yn ymwybodol fod yna wefannau ffug sydd yn ymddangos fel cwmnïau go iawn a gallent arwain atoch yn colli eich arian. At hyn, mae gwefannau eraill yn datgan y byddant yn cofrestru eich microsglodyn am ffi ac nid yw hyn yn cael ei wneud.
Er mwyn darllen y rhestr o gronfeydd data sydd wedi eu hawdurdodi gan Lywodraeth y DU, ewch i’r ddolen hon.
Os ydych angen cyngor fel cwsmer, yna ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.
Mae’r cyhoedd a busnesau yn cael eu hannog i ymuno gyda Friends Against Scams (ar gyfer y cyhoedd) a Businesses Against Scams (ar gyfer busnesau). Mae’r rhain yn ceisio diogelu ac atal pobl a busnesau rhag cael eu twyllo drwy eu hymrymuso i ymladd yn ôl erbyn y twyllwyr.
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf